Cafwyd noson hyfryd i ddechrau'r Tymor newydd dan lywyddiaeth Edwina Leach. Ymaelododd nifer dda o chwiorydd, ond cofiwch nid yw yn rhy hwyr i ymaelodi £13 yw am y flwyddyn.

Wedi canu cân y Mudiad croesawodd y Llywydd pawb, ac yna cyflwynodd ein siaradwraig wâdd, sef Mrs Jean Huw Jones o'r Betws sy'n aelod o'r gangen Aanabyddir Jean yn yr Orsedd fel Sian Aman, Meistres y Gwisgoedd, a gwelir hi yn seremoniau'r. Orsedd yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol Cawsom y fraint o weld gwisg newydd yr Archdderwydd a wisgwyd am y tro cyntaf yng Nghaerdydd gan Dic Jones. Cawsom hanes y wisg hon, yr hen wisg a gwisg y Prifardd a'r Prif Lenor. Roedd yn noson ddiddorol yn wir.

Bydd ein cyfarfod nesaf nos Wener Tachwedd 7fed. pan fyddwn yn croesawi Sian Rogers o Rogers o Gaerdydd, ond mae wedi ei magu yn Nyffryn Aman Coginio a diet cytbwys bydd ei phwnc Dewch atom.

Byddwn yn dathlu'r Nadolig yn y Llew Coch, Llandybie ar Rhagfyr 5ed. Gofynnir am dâl y cinio sef £20 ar Dachwedd 7fed. Cofiwch am y brâs.